Croeso i
Gyngor Bro Morgannwg

Camau Gorfodi

Rheoli Gorfodi

Mae grymoedd gan y Cyngor i reoli datblygu anawdurdodedig a gallai gymryd camau ffurfiol er mwyn unioni toriad o reolaeth gynllunio pan fo’n fanteisiol ac o fudd i’r cyhoedd iddo wneud hynny. Mae'r achosion o dorri rheolaeth gynllunio y mae'r Cyngor yn ymdrin â hwy yn cynnwys:

  • Codi adeiladau, estyniadau neu addasiadau i adeiladau.
  • Newid defnydd materol tir neu adeiladau.
  • Torri amod a osodir ar ganiatâd cynllunio.
  • Y methiant i gydymffurfio â chynlluniau a gymeradwywyd fel rhan o ganiatâd cynllunio.
  • Hysbysebion.
  • Gweithio i Wrych neu Goeden Warchodedig neu ei symud.
  • Gweithio i adeilad rhestredig.
  • Tir ac adeiladau di-drwyddo.

Gwneud Cwyn

Gallwch gysylltu â’r adran orfodi yn uniongyrchol gyda chwyn gan ddefnyddio'r ffurflen adrodd.

Nod y Cyngor yw cyflawni'r canlynol:

  • Nod yr adran Gorfodi yw datrys 60% o'r holl gwynion gan aelodau o'r cyhoedd o fewn 12 wythnos o’u cael. Byddai datrys achos yn golygu cymryd camau ffurfiol, derbyn cais cynllunio, neu farnu nad oes unrhyw doriad neu doriad nad yw'n werth ei weithredu.
  • Nod yr adran yw datrys 70% o'r holl ffeiliau nad ydynt yn ffeiliau cwynion o fewn 6 mis i'w derbyn.

Mae'r adran hefyd yn anelu at gyrraedd y targedau canlynol o ran materion gorfodi:

  • Bydd y Cyngor yn ymdrechu i gydnabod cwynion a wneir yn ysgrifenedig, drwy'r ffurflen gwyno ar-lein neu drwy e-bost o fewn 5 diwrnod gwaith.
  • Cwynion ysgrifenedig i ymchwilio iddynt yn unol â'r flaenoriaeth a ddyrannwyd i'r gŵyn: Blaenoriaeth 1 ymhen 1 i 5 diwrnod gwaith, Blaenoriaeth 2 ymhen 5 i 15 diwrnod gwaith a Blaenoriaeth 3 ymhen 28 diwrnod gwaith. I weld sut y dyrennir y flaenoriaeth, gweler y daflen Gorfodi Cynllunio: Canllaw i'r Cyhoedd.
  • Asesu difrifoldeb y toriad o fewn 28 diwrnod.
  • Rhoi gwybod i achwynwyr am ddatrys achos o fewn 28 diwrnod i'r penderfyniad hwnnw.
  • Rhoi cyhoeddusrwydd i bolisi a gweithdrefnau ar orfodi.

Dylid nodi y byddai'r adran yn gyffredinol yn ymchwilio i gwynion lle nodir yr achwynydd a bod ffurflen gwyno neu lythyr ysgrifenedig yn cael ei darparu. Fel arfer, anfonir ffurflen gwyno at achwynwyr drwy’r ffôn i'w llenwi a'i dychwelyd, ond yn gyffredinol dim ond pan fydd cyfyngiadau amser yn caniatáu y bydd cwynion dienw yn cael eu hymchwilio. Yn ogystal, mae'r adran wedi derbyn nifer o gwynion maleisus a annilys yn ddiweddar o ffynonellau dienw a dylid nodi mai cwynion o'r fath sy'n cael y flaenoriaeth isaf un.

Rydych chi yma:  
Cyngor Bro Morgannwg, Swyddfeydd Dinesig, Heol Holltwn, y Barri CF63 4RU, Ffôn: (01446) 700111